Safonau'r Gymraeg
Bydd Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor yn cael ei ddisodli ar 30 Mawrth 2016 gyda Safonau’r Gymraeg. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gyda'r diben o osod lefel gyson o wasanaeth y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl ei gael yng Nghymru. Drafftiwyd y safonau gyda’r nod o:
- wella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan gyrff yn y Gymraeg;
- cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;
- ei gwneud yn glir i gyrff cyhoeddus yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a
- sicrhau bod lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.
Gyda’r Mesur hefyd crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg sydd â'r rôl o hyrwyddo a hwyluso defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae dwy egwyddor sy'n sail i waith y Comisiynydd:
- Ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, a
- Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae rhestr o'r holl Safonau y mae'n ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio â hwy i'w gweld yma:
Y Gymraeg – Ydym ni wedi gwneud unrhyw beth o’i le?
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl. Fodd bynnag, deallwn nad ydym efallai yn bodloni eich disgwyliadau o bryd i'w gilydd neu efallai y byddwch yn sylwi ar wallau rydym wedi eu gwneud ynghylch y Gymraeg.
Os yw hyn yn wir, hoffem glywed gennych chi! Gallwch roi gwybod am unrhyw fethiant posibl gan y Cyngor i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg drwy gysylltu â Chydlynydd y Gymraeg ar cymraeg@wrexham.gov.uk.
Byddwn yn ystyried eich adroddiad yn llawn ac yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn cael ei wneud i ddatrys y mater. Os ydych yn dal yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cwyn drwy'r weithdrefn cwynion corfforaethol.
Cydymffurfiaeth â'r Safonau Iaith Gymraeg
Mae'r Cyngor yn ymroddedig i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg a amlinellir yn ei Hysbysiad Cydymffurfio Terfynol. Mae hwn yn grynodeb o'r hyn y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ymgymryd â hwy er mwyn cydymffurfio â'r Safonau a darparu cyfleoedd cyfartal ar gyfer ei gwsmeriaid i gyfathrebu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Adroddiad ar ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol
Yn unol ag adran 77(3)(b) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Gweler yr adroddiad wedi atodi mewn perthynas â rif achos:CSG478
29 Awst 2019
Adroddiad ar ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol
CSG329: Cynhaliwyd yr ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol yn unol ag adran 71 ac Atodlen 10 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
24 Ionawr, 2019
Adroddiad ar ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg
CSG237: Ymchwiliad dan adran 71 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i fethiant posib i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg
20 Mehefin 2018