Llyfr Coffadwriaeth Gresffordd Ar-Lein
Digwyddodd trychineb pwll glo Gresford ar 22 Medi 1934. Ar ôl ymgyrch hir, adeiladwyd cofgolofn er cof am y glowyr a fu farw. Cafodd y gofgolofn ei chyflwyno ar 26 Tachwedd 1982 ym mhresenoldeb tywysog a thywysoges Cymru a pherthnasau'r glowyr a fu farw yn y trychineb.
Crëwyd Llyfr Coffadwriaeth swyddogol i anrhydeddu'r glowyr a fu farw i nodi'r digwyddiad. Cedwir y ddogfen wreiddiol yng Nghanolfan A.N. Palmer ar gyfer Astudiaethau Lleol ac Archifau yn Amgueddfa Wrecsam. Cafodd y llyfr ei gynllunio a'i arysgrifio gan Hilton Studio, Lichfield.
Mae Llyfr Coffa rhithwir ac Galeri Goffa ar gael ar-lein. Rydym hefyd wedi creu llyfr atgofion i chi ychwanegu eich atgofion eich hunain a'ch ymatebion i Drychineb Glofa Gresffordd.