Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Gwirfoddolwyr
Croeso i Dudalen we Gwirfoddolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yma fe welwch wybodaeth am bethau y gallwch chi ei wneud i helpu gwella a chynnal rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol.
Mae 525 milltir o Hawliau Tramwy Cyhoeddus cofnodedig yn Wrecsam. Fel gallwch ddychmygu mae angen llawer o waith i sicrhau bod y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar agor, yn hygyrch ac yn hawdd ei ddefnyddio. Trwy ddod yn wirfoddolwr gallwch chi helpu’r Fwrdeistref Sirol gynnal ei Hawliau Tramwy Cyhoeddus cofnodedig fel bod y cyhoedd yn gallu mwynhau’r cefn gwlad hardd a chylchoedd trefol sydd gan Wrecsam i’w cynnig.
Cynyddodd nifer y gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith amrywiol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus o dipyn i beth yn y blynyddoedd diwethaf. Boed hynny er mwyn cadw’n heini a bywiog, neu rywbeth i wneud yn eich amser sbâr, mae pawb yn y tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ddiolchgar am yr help. I roi clod i’r rhai sydd eisoes yn gwirfoddoli ac i dynnu mwy o sylw at y cyfleoedd sydd ar gael, rydym yn dechrau tudalen we Gwirfoddolwyr.
- Beth am weld y rhai sydd eisoes yn gwirfoddoli
- Ychwanegwch eich enw neu sefydliad at ein rhestr o Gwirfoddolwyr
- Os yw dod yn wirfoddolwr yn swnio fel rhywbeth allai fod i’r dim i chi, edrychwch ar ba fath o waith y gallwch chi wneud i helpu
Yn anffodus ni allwn drefnu a goruchwylio gweithgorau gwirfoddol gan fod hyn y tu hwnt i’n hadnoddau ond, os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy’n gofyn mwy, croeso i chi gysylltu â’r canlynol:
- Cymdeithas y Cerddwyr (cyswllt allanol / Saesneg yn unig)
- Groundwork Gogledd Cymru (cyswllt allanol)
- Parciau Gwledig
- Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain (cyswllt allanol / Saesneg yn unig)
Mae ganddynt i gyd brofiad o weithio yn y maes hwn.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Os ydych yn aelod o Gyngor Cymuned, grŵp cerdded neu fudiad gwirfoddol a diddordeb mewn cymryd rhan, cliciwch ar y ddolen isod sy’n berthnasol i chi: